Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Mawrth 2022
Amser:
09.30 -
10.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12906
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a nododd fod Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Heledd Fychan. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd i ddiwygio fersiwn ddrafft y Weithdrefn newydd.
3 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
3.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
4 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).